​
Cwmni theatr dawns â’i gartref ym Pontypridd, Cymru yw Cwmni Dawns Ransack. Mae’r Ransackers yn cymysgu dawns athletig gyfoes llawn risg gyda chynildeb barddonol i adrodd stori. Mae’n gwaith yn archwilio cyfanrwydd theatr, gan uno symud byw, cerddoriaeth, ffilm a naratif, i symbylu cynulleidfaoedd i feddwl a theimlo.
​
Mae Ransack yn ymrwymo i gynhyrchu cynyrchiadau theatr ansawdd uchel sy’n addas i deithio, a gwneud gwaith sy’n hygyrch, gafaelgar sy’n ysgogi’r meddwl ar gyfer pobl o bob oed, profiad a chefndir. Rydym hefyd yn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi unigryw i bobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol, gan greu amgylchedd cefnogol, cydweithredol i artistiaid ar bob lefel i adeiladu sgiliau, ffurfio partneriaethau creadigol, a chreu gwaith theatr dawns o ansawdd uchel.
Mae Cwmni Dawns Ransack yn gysylltiedig ag ‘Artis Cymuned’, cwmni dawns cymunedol sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd. Rydym yn gweithio gyda'r sefydliad i dyfu'n strategol raglen unigryw o ddarpariaeth ddawns sy'n cysylltu perfformiad proffesiynol a dawns gymunedol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Artis Cymuned i ddarparu ystod o gyfleoedd dawns, addysg a hyfforddiant cymunedol megis ein prosiect 'CHWILOTA', a'n ysgol haf 'Chwilota Eich Straeon' i gymunedau yn Rhondda Cynon Taf, a'r ardaloedd cyfagos. Mae Artis Cymuned hefyd yn cefnogi ein gwaith ymchwil, datblygu a chynhyrchu trwy gynnig gofod a mentora i'r cwmni. Diolchwn i Artis Cymuned am eu cefnogaeth barhaus.
​
​