Mae Lucy yn artist dawns llawrydd yn byw yn Rhondda Cynon Taff. Hyfforddodd yn y Northern School of Contemporary Dance cyn ymuno ag Emergence – cwmni ôl-radd Joss Arnott a Phrifysgol Salford. Mae Lucy wedi dawnsio mewn labordai ymchwilio coreograffig gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (Laboratori) a Phoenix Dance Theatre (Choreographers & Composers Lab), ynghyd ag ymchwil a datblygu ar gyfer artistiaid dawns annibynnol. Roedd hefyd yn arwain yn ystod treialon The Talking Shop (Omidaze Productions) yn Merthyr, gan hwyluso sgyrsiau diwylliannol a rhannu celf gyda phobl leol. Yn fwy diweddar, comisiynwyd Lucy gan Make It! a Gŵyl Gelfyddydau’r Rhondda i drosi ei dawns sgrîn ‘’ (comisiwn Caerdydd Greadigol 2011) yn ddeuawd dawns byw ar gyfer gofodau dan do ac awyr agored, gyda barddoniaeth wedi ei ysgrifennu a’i pherfformio gan ei Mam-gu.
Ymunodd Lucy â rhaglen EXPLORE Ransack yn 2018 ac wedyn ymuno ag ymarferion ymchwil a datblygu’r cwmni yn 2021 mewn rôl dan hyfforddiant, cyn ymuno â’r cwmni yn llawn yn 2002 ar gyfer cyfnod creu a dangosiad gyntaf ‘Ar hyn o bryd mae Lucy yn mwynhau addysgu a chysgodi yn nosbarthiadau allgymorth cymunedol Artis Community Cymuned a Ransack, ac yn edrych ymlaen at berfformio yng nghynhyrchiad teithiol y cwmni o ‘Ni a Nhw’.