top of page
Maddie Jones
Mae Maddie Jones, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, yn canu, yn cyfansoddi caneuon, yn cynhyrchu ac yn chwarae nifer o wahanol offerynnau. Mae Maddie’n creu alt-pop fel MADITRONIQUE, yn ogystal â pherfformio gyda nifer o fandiau, cynnal gweithdai cerddoriaeth, creu cynnwys cerddorol, a llawer mwy. Mae hi’n ddigon hawdd ei hadnabod, gyda’i gwallt pinc llachar, ac mae hi wrth ei bodd gyda gwyliau cerddorol, coginio, a chwmni ei chath Ziggy.
Eleni, mae Maddie’n ymuno â Chwmni Dawns Ransack i gyflenwi ein Clwb Cerdd Ransack newydd a’n sesiynau cerddoriaeth fel rhan o’n hysgol haf!
Gallwch ddysgu rhagor am ein clwb cerdd newydd wythnosol gyda Maddie, a’n hysgol haf yn YMa, Pontypridd, yma.
bottom of page