Momenta
"Rydym yn actio bob dydd i achub ein bywydau." Marlon Brando
Gydag ysbrydoliaeth gan gyfweliad teledu gyda Marlon Brando, rydym yn archwilio’r mecanweithiau a ddefnyddiwn a’r gwahanol rolau a chwaraewn wrth actio’n ffordd trwy fywyd, yr harddwch yn yr adegau unigryw a phrin pan ddatgelwn freguster wrth inni ddangos ein gwirioneddau, a sut y gall hyn ein grymuso.
Cafodd Momenta ei greu yn wreiddiol fel darn gosod ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Ty Carnegie, Pen-y-bont ar Ogwr (Hydref 2015) a'i ddatblygu trwy ein Prosiectau Llwyfan Dawns Cyrraedd yng Nghanolfan Celfyddydau Muni, Pontypridd (Chwefror 2016), a Chanolfan Celfyddydau Memo, Y Barri (Gorffennaf 2017) . Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau'r gwaith sy'n ffurfio un o'r darnau yn ein cynhyrchiad dwbl 'Murmur', a gynhyrchwyd yn y Ganolfan Memo Arts ym mis Medi 2018, ac yn teithio i leoliadau Cymreig yn 2019/2020.
​