Llysgenhadon Ieuenctid Ransack
Mae ein rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 21 oed, a hoffai, wedi iddynt weithio gyda Ransack, gael mwy o ymwneud â’r cwmni. Bydd Llysgenhadon Ieuenctid yn ein helpu ni i hyrwyddo ein prosiectau a’n perfformiadau ac yn cynrychioli Ransack yn eu cymunedau. Bydd gan Lysgenhadon hefyd gyfle i fanteisio ar amrywiol gyfleoedd yn cynnwys gweithdai a mentora gyda’n cwmni proffesiynol.
Gallwch gwrdd â’n Llysgenhadon Ieuenctid a chanfod mwy amdanynt isod.
Rydym hefyd wedi gofyn iddynt anfon rhai cwestiynau i’n dawnswyr proffesiynol a’n coreograffydd sydd wedi eu hateb mewn cyfweliad ar-lein sydd i’w weld yma.
Ruby Westrip
Fy enw i yw Ruby Westrip. Rwy’n bymtheg oed a bûm yn dawnsio efo Impelo ers tua pedair blynedd. Rydw i wedi cymryd rhan mewn dau gynhyrchiad Ransack blaenorol (sef drama agoriadol Arrive a fflachdorf gymunedol Murmur) a bu’n ddiddorol iawn gweld sut y mae pob un ohonynt yn wahanol i’w gilydd, gan ddysgu technegau ac arddulliau dawnsio newydd bob tro ac mae wedi golygu mod i wedi bod yn ddigon ffodus i ddawnsio yn Theatr Brycheiniog ddwywaith. Mae hi wedi bod yn anhygoel cael fy nysgu gan ddawnswyr proffesiynol ac rwyf wedi cyffroi’n lân wrth feddwl i ble mae’r prosiect newydd hwn yn arwain.
Dyma fy nghwestiynau i i’r dawnswyr proffesiynol:
Faint mae’n cymryd fel arfer i lunio dawns o’r newydd?
Sut fyddwch chi’n dewis / cyfansoddi cerddoriaeth i gydfynd â dawns?
Emily Francis
Fy enw i yw Emily Francis. Rwy’n 12 oed ac yn byw yn Llandrindod. Mae gen i sawl hobi yn cynnwys chwarae peldroed i’m tîm merched lleol, celf a phobi.
Rwyf hefyd yn aelod o Ddreigiau Gymnasteg Llandrindod a Chwmni Theatr Llandrindod ac rwyf wedi perfformio yn y 3 pantomeim lleol diwethaf.
Rwyf wedi dawnsio yn Impelo (yr hen Dawns Powys) ers i mi fod yn 4 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi mynychu sawl gweithdy gwahanol. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i ddawnsio yn Eisteddfod yr Urdd yn 2018 yn nhair o’r seremonïau gwobrwyo, a oedd yn brofiad gwych.
Dawnsiais am y tro cyntaf efo Ransack yn 2019 yn fflachdorf gymunedol eu cynhyrchiad o "Murmur”. Roedd hyn yn golygu mynd i weithdai yn Impelo efo Ransack ac yna cael cyfle i berfformio gyda’r perfformwyr proffesiynol yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu. Roedd yn brofiad cyffrous a gwych, felly pan glywais am brosiect Fflachdorf gymunedol newydd Ransack, roeddwn yn awyddus iawn i gymryd rhan.
Er ei fod yn deimlad od i ddechrau, i ymarfer ar Zoom yn hytrach nag yn y stiwdio, gwnes wir fwynhau’r profiad o weithio efo’r dawnswyr proffesiynol yn wythnosol o’m cartref fy hun. Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at barhau i weithio efo Ransack ar y prosiect cyffrous hwn.
Dyma fy nghwestiynau i i’r dawnswyr proffesiynol:
A fyddwch chi’n hyfforddi bob dydd?
A oeddech chi bob amser wedi gwybod eich bod am fod yn ddawnsiwr?
Verity Tuke
Fy enw i yw Verity Tuke ac rwy’n 14 oed. Rwyf wrth fy modd efo dawnsio cyfoes, celf – collage yn bennaf – a cherdded y bryniau. Rwyf hefyd wedi cael gwersi dawnsio’n lleol yn Llandrindod ers i mi fod yn chwech oed. Heblaw am Ransack Dance rydw i hefyd wedi dawnsio yn Aberystwyth yn yr ysgol ddawns yng Nghanolfan y Celfyddydau. Prosiect fflachdorf Digital Interludes oedd fy mhrosiect cyntaf gyda Ransack ac rwy’n edrych ymlaen i barhau efo’r prosiect yn y stiwdio y flwyddyn nesaf. Rwyf hefyd yn cael gwersi unigol efo Sarah, y Cyfarwyddwr, er mwyn parhau i ddatblygu fy nhechneg dawnsio. Fy uchelgais i’r dyfodol yw astudio yn Laban.
Jonathan Kendrick
Helo, fy enw i yw Jonathan Kendrick. Rwy’n 16 oed ac yn byw ym Merthyr Tudful. Fy hobïau i yw dawnsio, canu, chwarae gemau a mynd i’r sgowtiaid. Dechreuais ddawnsio pan oeddwn yn 9 oed efo cwmni o’r enw Artis Cymuned. Roeddwn i hefyd yn dawnsio bob wythnos efo’u grŵp blaenllaw i fechgyn o’r enw Stride. Yn 2016, cymerais ran yn ysgol haf Ransack efo fy ffrind, a gwnes i wir ei fwynhau. Rydw i wedi cymryd rhan bob blwyddyn ers hynny. Gweithiais efo Sarah, y Cyfarwyddwr, eto yn 2017 pan ddaeth i’m Clwb Ieuenctid lleol yng Nghanolfan Willows, Troedyrhiw, a bûm yn mynd i ddosbarthiadau wythnosol yno am ddwy flynedd. Y llynedd, yn ystod hanner tymor Chwefror, gwnes gymryd rhan ym mhrosiect Explore Ransack, gan greu darn gyda’u dawnswyr proffesiynol. Yn yr un cyntaf, gwnaethom berfformio dawns dan dŵr a ysbrydolwyd gan chwedl Atlantis, a oedd yn araf a breuddwydiol iawn. Roeddwn yn rhan o’r prosiect eto eleni ond nid ydym wedi perfformio eto oherwydd Covid 19. Gwnes hefyd berfformio yn y prosiect fflachdorf cymunedol y llynedd fel rhan o gynhyrchiad proffesiynol Ransack, “Murmur”.
Roedd fy mhrofiad efo Ransack a’r prosiect fflachdorf newydd ym mis Medi yn llawer o hwyl. Gwnes fwynhau pob dawns yr oeddwn yn rhan ohoni. Roedd hi’n wych gweld rhai wynebau cyfarwydd ac yn hyfryd i gwrdd â phobl newydd nad oeddwn wedi dawnsio gyda nhw o’r blaen. Roeddwn wrth fy modd gyda’r prosiect diweddaraf yma ond rwy’n edrych ymlaen i ddawnsio yn y cnawd a pherfformio ar lwyfan go iawn unwaith eto. Bu’n hwyl dawnsio efo’n gilydd ar Zoom, ond mae o hefyd yn teimlo’n eitha’ od a dryslyd ceisio dilyn yr athro. Ond mae’n well o lawer na pheidio dawnsio o gwbl ar hyn o bryd.
Dyma fy nghwestiynau i i’r dawnswyr proffesiynol.
Beth oedd eich rheswm dros ddod yn ddawnsiwr yn y lle cyntaf?
A oes gennych unrhyw eilunod dawns ac os oes, pwy ydyn nhw?
Georgina Horsley
Helo, fy enw i yw Georgina. Rwy’n fyfyrwraig TGAU sy’n astudio Drama, Celf a Cherddoriaeth. Rwy’n ddawnswraig bale a chyfoes a bûm yn dawnsio gydag Artis Cymuned ers 9 mlynedd ac ar hyn o bryd, rwy’n dawnsio gyda ‘Cwmni Dawns Ieuenctid Inspire,’ sy’n cael ei arwain gan un o ddawnswyr Ransack o’r enw Mike Williams. Fe wnes i nifer o wahanol bethau efo Ransack cyn cymryd rhan yn eu prosiect fflachdorf diweddaraf y gwnes i ddawnsio ynddo, a chanu’r gitar a chanu cân ar fy mhen fy hun yn sioe haf yr ysgol. Rydw i hefyd wedi cymryd rhan yn eu prosiect Youth Explore ac yn hwnnw, cefais greu darn i’w berfformio efo’r dawnswyr proffesiynol, a bod yn eu fflachdorf gymunedol ar gyfer eu cynhyrchiad Murmur yn Neuadd y Dref Maesteg y llynedd.
Dyma fy nghwestiynau i i’r dawnswyr proffesiynol.
Byddwn wrth fy modd yn dysgu sut i fod â mwy o hyder ynof fi fy hun wrth geisio dawnsio symudiadau mwy anodd? Oes gennych unrhyw gynghorion?
Hefyd, hoffwn wybod beth yw’r ddawns mwyaf cyffrous i ddawnswyr Ransack ei gwneud erioed?
Cliciwch yma i weld cyfweliad lle mae rhai o’n dawnswyr proffesiynol a’n Cyfarwyddydd yn ateb cwestiynau ein Llysgenhadon Ifanc ac yn trafod pob dim dan haul am Ransack!