top of page

Ffilm iaith arwyddion Prydeinig

Galwad Agored am Goreograffwyr a Chwmnïau Addawol!

YMGEISIWCH NAWR: ‘Arrive at Home’ – Prosiect ar gyfer Coreograffwyr Addawol 

RansackSummer2022(186).JPG

Mae’r cyfle yn awr ar agor ar gyfer coreograffwyr a chwmnïau dawns o Gymru i gyflwyno cais ar gyfer Arrive at Home, prosiect Cwmni Dawns Ransack. Mae’r prosiect yn cyrraedd ei uchafbwynt mewn cyfle i berfformio, i rannu gwaith-ar-waith neu waith dawns sydd newydd gael ei gwblhau, ar Blatfform Dawns Arrive yng nghartref ein cwmni, sef ‘YMa, lle ar gyfer Creadigrwydd, Diwylliant, a’r Celfyddydau’ ym Mhontypridd.

 

Gall coreograffwyr a chwmnïau addawol gyflwyno cais i’r rhaglen i dderbyn cymorth i greu ac ymarfer gwaith newydd, ac i rannu’r gwaith ar Blatfform Dawns Arrive i roi cynnig ar syniadau newydd a derbyn adborth cynulleidfa. Cynhelir y prosiect rhwng Ionawr a Mawrth 2025, gyda’r digwyddiad platfform yn cael ei gynnal ddydd Gwener 28 Mawrth. 

 

Yn flaenorol, mae Ransack wedi cynnal y Prosiect Dawns Arrive mewn partneriaeth ag ystod o theatrau yn ne Cymru, yn cynnwys Theatr y Sherman, Canolfan Celfyddydau y Muni, Canolfan Celfyddydau Memo, a Theatr Brycheiniog. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn gyffrous at aildanio ein prosiect eleni, a’i groesawu i YMa, ein cartref ni, mewn partneriaeth gyda Chymuned Artis, ein sefydliad cyswllt. 

 

Bydd coreograffwyr/cwmnïau sy’n cymryd rhan yn derbyn y cymorth canlynol:

 

  • 10 awr o ofod ymarfer yn rhad ac am ddim yn YMa, wedi eu hamserlennu gan y coreograffydd/cwmni rhwng Ionawr a Mawrth, yn unol â’u hargaeledd. 

  • Yna bydd gofod ymarfer ychwanegol ar gael am ffi gostyngol o £10 yr awr (graddfa rhentu dyddiol – wedi ei drefnu fwy nag wythnos o flaen llaw)

  • Bydd gofod ymarfer ychwanegol ar gael yn rhad ac am ddim, os trefnir o leiaf 1 wythnos o flaen llaw a bod y gofod ar gael. 

  • Adborth a chefnogaeth cyfoedion drwy drefnu sesiynau rhannu stiwdio rhwng artistiaid ‘Arrive’ ac artistiaid Cwmni Dawns Ransack.

  • Cefnogaeth mentora a/neu ddramatwrgaidd gan Gyfarwyddwr Artistig Ransack, Sarah Rogers. 

  • Cyfle i berfformio ym Mhlatfform Dawns Arrive yn YMa, ddydd Gwener 28 Mawrth.

  • Lluniau a ffilm o’r darn perfformio ac adborth y gynulleidfa (yn ysgrifenedig ac mewn trafodaeth ar ôl y sioe). 

 

Ffi Perfformio ar gyfer y Platfform Dawns Arrive:

Bydd pob coreograffydd a pherfformiwr sy’n cymryd rhan yn y Platfform Dawns Arrive yn derbyn £100 (unigolion, deuawdau neu grwpiau o hyd at 4 person).

Gall grwpiau/cwmnïau o fwy na 4 person gyflwyno cais, ond rhoddir tâl o ddim mwy na £400 i bob grŵp. Yn yr achosion hyn, disgwylir y bydd y coreograffydd/cwmni yn darparu arian cyfatebol ar gyfer y cyfle, er mwyn rhoi tâl teg i berfformwyr ychwanegol. 

 

Sut i ymgeisio:

Am ragor o wybodaeth a/neu i gyflwyno cais, anfonwch ebost at info@ransackdance.co.uk

 

I ymgeisio, anfonwch ebost atom am ffurflen gais – bydd honno’n gofyn am fanylion amdanoch chi/eich cwmni a’r gwaith rydych yn dymuno ei greu/ymarfer a’i gyflwyno yn y platfform. 

 

Gall coreograffwyr/cwmnïau ymgeisio gyda darnau newydd gwaith-ar-waith rydych eisoes wedi dechrau eu creu drwy gyfrwng prosiectau blaenorol, a’ch bod yn bwriadu eu datblygu ymhellach drwy Brosiect Arrive (cyn belled â’ch bod yn ystyried y gwaith hwn fel un sy’n parhau i fod yng nghamau cyntaf ei greu/ddatblygu), neu syniad am waith newydd sbon, nad yw eto wedi ei greu, y byddwch yn ei gynnig yn eich cais ac yn ei greu o’r cychwyn cyntaf drwy’r prosiect. Rydym yn chwilio am waith dawns sydd rhwng tua 10 a 15 munud o hyd ac mewn unrhyw arddull dawns.

 

Ar gyfer y cyfle hwn, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn dod o hyd i goreograffwyr/ cwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Byddwn, fodd bynnag, hefyd yn derbyn coreograffwyr/cwmnïau sydd ar hyn o bryd wedi eu lleoli y tu allan i Gymru, os gallwch ddangos yn glir bod gennych gysylltiadau agos â Chymru a’ch bod yn awyddus i weithio yng Nghymru a/neu gael eich lleoli yno yn y dyfodol. 

 

Beth rydyn ni’n ei olygu wrth ddweud ‘addawol’?

Rydym yn derbyn ceisiadau oddi wrth goreogaffwyr a chwmnïau yng nghamau cynnar eu gyrfa, a chanddynt waith proffesiynol, a/neu gwmnïau sydd dan 10 oed. Rydym yn chwilio am artistiaid sy’n teimlo eu bod yn parhau i ddod o hyd i’w lle yn y sîn dawns yng Nghymru, ac yn dal i fod yng nghamau datblygiad cynnar eu harddulliau symud a choreograffi, datblygu cwmni (os yn briodol) ac adeiladu cynulleidfaoedd ar gyfer eu gwaith yng Nghymru. 

 

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: Dydd Llun 30 Rhagfyr, 5pm 

 

Ariennir y prosiect gan y Jerwood Foundation a Chyngor Celfyddydau Cymru 

bottom of page